Cyflwyniad
Bydd y bwriad i adnewyddu Canolfan Hamdden y Fenni yn creu canolfan les dros y llawr cyntaf er mwyn creu cyfleusterau hamdden modern i’r gymuned leol gan helpu i gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd.
Bydd y cyfleusterau newydd arfaethedig yn cynnwys:
- Ystafell Ffitrwydd Estynedig
- Stiwdio Ymarfer Grŵp Pwrpasol
- Stiwdio Sbin
- Cyfleusterau Newid Ffitrwydd Newydd
- Cynnig Gwerthu Coffi Llawr Gwaelod
Mae’r datblygiad hwn yn dilyn cwblhad prosiect llwyddiannus yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy, a gwblhawyd yn 2019. Mae aelodau etholedig Cyngor Sir Fynwy wedi datgan eu hymrwymiad i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden ar draws ein sir a’u datblygu er mwyn cefnogi iechyd a lles ein dinasyddion. Bydd y buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau Hamdden yn cael effaith sylweddol ar les nid yn unig yn awr, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol hefyd.
Cynlluniau
Gellir gweld gwahanol gynlluniau a delweddau ar gyfer y datblygiad arfaethedig drwy glicio ar y dolenni isod.