Cwestiynau Cyffredin
Pryd mae’r gwaith ail-ddatblygu i fod i ddechrau?
Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar 30ain Awst 2021.
Pryd fydd yr holl gyfleusterau’n ailagor?
Yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol a roddwyd i ni gan y contractwyr, rydym yn obeithiol y byddwn yn edrych ar ailagor llawn ddechrau Ionawr 2022.
Beth ydych chi’n ei wneud i Ganolfan Hamdden y Fenni yn ystod y gwaith adnewyddu?
Yn seiliedig ar y cynigion presennol, bydd adnewyddu Canolfan Hamdden y Fenni yn creu canolfan les dros y llawr cyntaf er mwyn creu cyfleusterau hamdden modern i’r gymuned leol gan helpu i gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd.
Bydd y cyfleusterau newydd arfaethedig yn cynnwys:
- Ystafell Ffitrwydd Estynedig gydag offer newydd
- Stiwdio Ymarfer Grŵp Pwrpasol
- Stiwdio Sbin
- Cyfleusterau Newid Ffitrwydd Newydd gyda newid hygyrch pwrpasol
- Cynnig Gwerthu Coffi Llawr Gwaelod
A fydd y ganolfan hamdden dal ar agor yn ystod y gwaith ailwampio?
Bydd y ganolfan hamdden yn parhau ar agor yn ystod y gwaith ailwampio ond nodwch y bydd yna ychydig o aflonyddwch ac efallai y bydd yna sŵn ychwanegol ar y safle tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
A oes yna unrhyw gyfleusterau newid a chawod ar gael yn y gampfa dros dro?
Bydd cyfleusterau newid a chawod ar gael yn adeilad y brif ganolfan hamdden cyn 8am ac ar ôl 5pm ar ddyddiau Llun – Gwener ac ar benwythnosau
Pa effaith a gaiff y gwaith adnewyddu ar ddefnyddwyr presennol y ganolfan hamdden?
Oherwydd natur y gwaith adnewyddu, yn anffodus bydd effaith ar rai defnyddwyr. Bydd llai o leoedd parcio ceir, lle bo hynny’n bosibl byddem yn annog cerdded a beicio i’r safle ac oddi yno. Bydd y llawr cyntaf yn cau’n llwyr ond bydd cynnig ffitrwydd dros dro ar gael. Byddwn yn cysylltu â phob archeb clwb y mae’r gwaith yn effeithio arnynt ar wahân.
Ble gallaf ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cynnal a chadw a drefnwyd?
Byddwn yn cyfathrebu’n rheolaidd mewn perthynas â’r gwaith drwy nifer o sianeli gan gynnwys:
- Y wefan hon monlifeleisuredevelopment.co.uk
- Negeseuon e-bost drwy gylchlythyr, cofrestrwch drwy ein gwefan bwrpasol.
- Sianeli cyfryngau cymdeithasol MonLife.
- Cyswllt drwy MonLife a gwefan Cyngor Sir Fynwy.
- Trwy sganio codau QR sy’n cael eu harddangos yn ein Canolfannau Hamdden
- Danfoniadau post at aelodau MonLife
A fydd y ganolfan hamdden newydd yn addas i rywun sydd ag anabledd?
Bydd y ganolfan hamdden yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010
Bydd yr ail-ddatblygiad yn cynnwys:
- Offer campfa hygyrch.
- Stiwdios agored gyda mynediad hawdd.
. Cyfleusterau newid hygyrch
- Drysau awtomatig
A fydd cyfleuster campfa dros dro yn cael ei ddarparu drwy gydol y cyfnod cau?
Oes. Byddwn yn darparu cynnig ystafell ffitrwydd dros dro a fydd wedi’i leoli yng nghampfa’r ysgol (gyferbyn â’r brif dderbynfa).
Pryd fydd y gampfa’n adleoli i’r cyfleuster dros dro?
Mae’n debygol y bydd y cyfleuster dros dro ar waith o ddydd Sadwrn 28ain Awst 2021.
A fydd unrhyw ddiwygiadau i amserlen bresennol y dosbarth ffitrwydd?
Bydd cynnig dosbarth ffitrwydd wedi’i ddiwygio ychydig drwy gydol y gwaith; fodd bynnag, bydd yn cynnwys dosbarthiadau fel Fit4Life a Sbin. Bydd Cylchedau a Ffitrwydd Dŵr hefyd yn parhau yn y Neuadd Chwaraeon a’r pwll Nofio yn y drefn honno. Bydd Tai Chi, Ioga a Pilates hefyd ar gael drwy ein Gwasanaeth Ar Alw a Ffrydio Bywyd fel rhan o aelodaeth y Ganolfan Hamdden.
A fydd y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol ar gael?
Bydd y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff ar gyfer y Fenni yn parhau i gael ei ddarparu drwy Rhith-lwyfannau, a bydd yn dychwelyd i gael ei Gyflwyno Wyneb yn Wyneb pan fydd y ganolfan hamdden wedi’i hadnewyddu ac yn ailagor o fis Ionawr 2022.
A fydd yna unrhyw effaith ar y rhaglen Learn 2 Swim?
Bydd angen i’r holl blant sydd yn mynychu ein gwersi nofio i gael eu gollwng a’u casglu o ddrws allanfa dân y pwll nofio. Mae’r rhieni wedi eu hysbysu o’r newid yma.
Pa offer fydd yn cael eu darparu yn y cyfleuster dros dro?
Gellir gweld delwedd o gynllun y gampfa dros dro yma
Sut olwg fydd ar gynllun y gampfa newydd?
Gellir gweld cynigion ar gyfer cynllun newydd y gampfa yma. Byddwn yn cynnwys yr offer Technogym diweddaraf gan gynnwys yr ystod Excite. Yn ogystal â hyn bydd stiwdio sbin bwrpasol newydd a stiwdio ymarfer grŵp pwrpasol.
A fydd modd i mi fynd yn syth i’r gampfa dros dro?
Bydd yr holl aelodau debyd uniongyrchol a blynyddol yn medru mynd yn syth i’r gampfa dros dro, heb orfod mynd i mewn i’r ganolfan hamdden. Bydd angen i’r holl aelodau sydd ag aelodaeth achlysurol fynd i mewn i’r dderbynfa er mwyn derbyn tocyn.
A fydd yna staff yn y gampfa dros dro?
Bydd aelod o staff yn y gampfa dros dro drwy’r amser.
A fydd yna ddŵr i’w yfed ar gael yn y gampfa dros dro?
Bydd yna ffynnon ddŵr yn y dderbynfa yn y prif ganolfan hamdden a bydd modd i ddefnyddwyr ei defnyddio er mwyn llenwi eu poteli.
A gaiff unrhyw sesiynau nofio cyhoeddus neu nofio teulu yn ystod hanner tymor mis Hydref?
Oherwydd y gwaith adnewyddu sy’n mynd rhagddo yng Nghanolfan Hamdden y Fenni, bydd sesiynau nofio cyfyngedig yn ystod hanner tymor mis Hydref. Mae mwy o wybodaeth yn yr amserlen diweddaraf. https://www.monlife.co.uk/monactive/abergavenny-leisure-centre
A gynhelir Gemau Sir Fynwy yng Nghanolfan Hamdden Sir Fynwy yn ystod hanner tymor yr Hydref?
Oherwydd y gwaith adnewyddu yng Nghanolfan Hamdden y Fenni, cafodd y ddarpariaeth ei symud dros dro ar gyfer hanner tymor yr Hydref i Ysgol Gynradd Deri View. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ddolen yr wybodaeth ddilynol Gemau Sir Fynwy – Gweithgareddau Gwyliau MonLife.
Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ond os oes gennych gwestiwn penodol sydd heb ei nodi yna cysylltwch â ni ar monlifeprojects@monmouthshire.gov.uk